Cyrsiau a Rhaglenni
Lefelau’r Cymwysterau
Tystysgrif Addysg Uwch (Tyst AU) - Lefel 4
Mae’r Dystysgrif Addysg Uwch yn gymhwyster Lefel 4 ac mae’n cyfateb i flwyddyn gyntaf rhaglen lawn amser ar gyfer gradd anrhydedd. Gall cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch yn llwyddiannus arwain i ail flwyddyn rhaglen Gradd Sylfaen neu Radd Anrhydedd briodol.
Diploma Addysg Uwch (Dip AU) - Lefelau 4 a 5
Mae Diploma Addysg Uwch yn gymhwyster Lefel 4 a 5 ac mae’n cyfateb i ddwy flynedd rhaglen lawn amser ar gyfer gradd anrhydedd. Gall cwblhau Diploma Addysg Uwch yn llwyddiannus arwain i ‘r drydedd flwyddyn rhaglen Gradd Anrhydedd briodol.
Gradd Sylfaen (FdA / FdSc) - Lefelau 4 a 5
Mae Gradd Sylfaen yn gymhwyster ar Lefel Addysg Uwch sy’n gysylltiedig â chyflogaeth. Fe’i lluniwyd i ddarparu unigolion â’r sgiliau a gwybodaeth lefel uwch sy’n cyflawni anghenion y cyflogwr, ac ar yr un pryd yn cynnig y cyfle i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Seilir y radd yn y gwaith ac mae’r prosiectau ac aseiniadau’n ymwneud â rôl yr unigolyn o fewn y gweithle.
Gradd Israddedig (BA / BSc) - Lefelau 4, 5, 6
Mae Gradd Anrhydedd Israddedig yn gwrs llawn-amser dros 3 blynedd. Mae'r rhan fwyaf o cyrsiau yn fodwlar a gellir eu hastudio ar sail rhan amser naill ai yn ystod y dydd neu gyda'r hwyr yn cynnwys ambell ddydd Sadwrn. Gellir cael manylion am y cyrsiau hyn yn y Prosbectws Israddedig.
Tystysgrif Raddedig (Tyst Radd) - Lefel 6
Lluniwyd y Tystysgrifau Graddedig ar gyfer y sawl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster Lefel 6 mewn disgyblaeth arall
Tystysgrif Ôl-raddedig (Tyst Ôl-radd) - Lefel 7
Dyfernir Tystysgrif Ôl-raddedig am 60 credyd a Diploma Ôl-raddedig am 120 credyd.
Diploma Ôl-raddedig (Dip Ôl-radd) - Lefel 7
Dyfernir Tystysgrif Ôl-raddedig am 60 credyd a Diploma Ôl-raddedig am 120 credyd.
Gradd Meistr (MA / MBA) - Lefel 7
Er mwyn derbyn gradd meistr mae’n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau 180 credyd ar Lefel 7, a bydd 60 ohonynt drwy waith ymchwil a gyflwynir mewn traethawd o 20,000 o eiriau.
Rwy’n teimlo’n gyfforddus iawn yn y Drindod oherwydd yr awyrgylch gartrefol sydd yma. Mae’r campws bychan yn golygu bod pawb yn dod i adnabod pawb ac yn fwy pwysig mae’r darlithwyr o fewn pellter cyrraedd i ddelio gydag unrhyw ymholiadau neu i gynnig help llaw.
Mae astudio addysg gorfforol wedi rhoi mewnwelediad i ddysgu, caffaeliad sgiliau, seicoleg chwaraeon a llawer mwy. Mae’n gwrs hynod o ddiddorol sy’n fy ngalluogi i ddefnyddio’r cyfleusterau chwaraeon ardderchog sy yma.
Michael Lloyd Jenkins
BA Addysg Gorfforol
